pp5ad4007a.png
pp9c98cfc7.png
pp01111b14.png
pp38be22ce.png
Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa

Brecknock Society and Museum Friends
Hafan.
untitled-<wbr>5.jpg
Ffurfiwyd Cymdeithas Brycheiniog ym 1928, gan sefydlu amgueddfa sirol gyntaf Brycheiniog yn adeilad yr hen gapel yn Heol Morgannwg, sydd bellach ar werth. Trosglwyddwyd rheolaeth yr amgueddfa i Gyngor Sir Brycheiniog ym 1951, a ffurfiwyd Cyfeillion yr Amgueddfa.  Cymerwyd yr Amgueddfa drosodd gan Gyngor Sir Powys ym 1974, a symudwyd y casgliadau i’r anheddau presennol yn yr Hen Lysoedd Barn ar Rodfa’r Capten. Unwyd y naill gymdeithas a’r llall fel Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa ym 1986.






















© Ruth Harper. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd hael y ffotograffydd.

Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo astudiaeth a dealltwriaeth Archeoleg, Hanes, Daeareg, Hanes Naturiol, Celfyddyd a Llenyddiaeth Cymru, yn benodol sir hanesyddol Brycheiniog.

Dyma rai o weithgareddau’r Gymdeithas:
· cynorthwyo datblygiad Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, trwy brynu offer a dangosion, ac i lobïo ar ei rhan;
· trefnu a rheoli Cystadleuaeth Hanes yr Ysgolion a phrosiect yr archif lafar;
· llwyfannu a hyrwyddo Gwobr Lenyddol Roland Mathias bob dwy flynedd;
· trefnu darlithoedd misol yn ystod y gaeaf, gan gynnwys Darlith Goffa Sir John Lloyd  uchel ei pharch;
· trefnu ymweliadau a theithiau maes i safleoedd hanesyddol ym Mrycheiniog ac y tu hwnt yn yr haf;
· cyhoeddi’n Cyfnodolyn ‘Brycheiniog’


Rhaglen 2009- 2010

Dydd Gwener 19 Mawrth 2010 7.30
Darlith Goffa Syr John Lloyd :
‘Presenoldeb y Rhufeiniaid ym Mrycheiniog’
Dr J L Davies Neuadd Tref Aberhonddu -
Mynediad am Ddim, ond rhaid sicrhau tocynnau ymlaen llaw.  

Dydd Llun 12 Ebrill
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Amgueddfa Brycheiniog.