BRYCHEINIOG
Cyhoeddir cyfnodolyn y Gymdeithas yn flynyddol, gan fwynhau enw parchus ledled Cymru.
Ymddangosodd Cyfrol XXXIX yn 2007, a bydd Cyfrol XL yn ymddangos adeg Darlith Goffa Syr John Lloyd (20 Mawrth 2009) Mae’r gyfrol hon yn cynnwys erthyglau ar Thelwall ym Mrycheiniog, Heol Camden, Mapio’r Geoparc, Atgofion Bachgen o’r Wlad (yn Gymraeg), Crughywel yn y 19eg Ganrif a Brycheiniog a Llydaw.
Mae Cyfrol XXX yn fynegai cynhwysfawr.
Mae nifer o ôl-rifynnau ar gael gan y Dirprwy Olygydd.
Erthyglau a llyfrau am adolygiad i’r Golygydd, Brynach Parri, trwy Amgueddfa
Brycheinog.
Ailgyflwyniad o’r Llys Sirol yn y lleoliad gwreiddiol yn Amgueddfa Brycheiniog.
Mae Brycheiniog yn cymryd rhan ym mhrosect digiteiddio cylchgronau Cymru’r Llyfrgell Genedlaethol. Bydd hyn yn golygu y bydd pob rhifyn o’r Cyfnodolyn hyd at bum mlynedd yn ôl ar gael ar-lein ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd cyfieithiadau i’r Saesneg o erthyglau newydd yn Gymraeg yn y cyfnodolyn ar gael ar y wefan hon, a’n bwriad yw cynnig cyfieithiadau o erthyglau gynt ar gyfer y di-Gymraeg yma hefyd.
Swyddogion y Gymdeithas
Llywydd
Mr Ken Jones
Cadeirydd
Mr John Gibbs
Ysgrifenyddes Anrhydeddus
Miss Helen Gichard
Aelodaeth
Mrs Susan Fawcett-Gandy
Trysorydd
Mr Anthony Bell
Archwilydd
MrsWendy Camp
Golygydd Brycheiniog
Mr Brynach Parri
Golygydd Cynorthwyol
Mr P Jenkins
Prosiect Archif Lafar
Nod yr Archif Lafar yw cofnodi cofiannau llafar preswylwyr Brycheiniog ac ymwelwyr fel y cyfryw. Casglwyd archif hynod gyda dros 140 o gyfranwyr, o’r hynaf i’r ieuengaf yn recordio eu hatgofion a’u syniadau am y gymdeithas sydd ohoni. Mae’r recordiadau ar gael i’r cyhoedd eu clywed mewn mannau gwrando yn yr Amgueddfa.
Gwobr Roland Mathias.
Mae’r Gymdeithas yn gyfrifol am drefnu a hyrwyddo Gwobr Roland Mathias bob yn ail flwyddyn. Dyfernir y Wobr am Casgliad o Storïau Byrion yn Saesneg gan awduron o Gymru neu yn byw yng Nghymru yn y meysydd canlynol: Llenyddiaeth, Beirniadaeth Lenyddol, Barddoniaeth neu Hanes Cymru. Ewch at www.Roland.Mathias.Prize
Darlith Goffa Syr John Lloyd
Cynhelir Darlith Goffa Syr John Lloyd Memorial yn gynnar yn y gwanwyn ers deuddeg mlynedd bellach. Mae mynediad am ddim, ond gwneir casgliad at gronfeydd y Gymdeithas, neu at ddibenion elusennol yn gysylltiedig â’r ddarlith. Mae tocynnau ar gael o’rAmgueddfa yn Ionawr neu Chwefror, gyda blaenriaeth gynnar i aelodau, ond rhaid sicrhau sedd ymlaen llaw, gan fod y Neuadd weithiau’n llawn. Mae’r Darlithoedd wedi cyrraedd safon uchel iawn, ac ymhlith ein siaradwyr mae’r canlynol:
1998
Dr William Jones Ymfudo o Frycheiniog i Ogledd America
1999
Yr Athro Sir Glanmor Williams Syr John Pryse o Aberhonddu
2000
Yr Athro Rees Davies Brycheiniog, Owain Glyn Dŵr a Dafydd Gam
2001
Yr Athro Wendy Davies Arglwyddiaeth Brycheiniog yn y Canoloesoedd
2002
Yr Athro Ralph Griffiths Yr Esgob Morton a Thŵr Elai Aberhonddu
2003
Yr Athro Aled Jones Aberhonddu ar y Groesffyrdd: Newyddiaduraeth
2004
Yr Athro John Davies Teuluoedd Tirfeddiannol Brycheiniog
2005
Yr Athro J Gwynfor Jones John Penry – Piwritan Brwd
2006
Yr Athro Richard Moore-Colyer Yr Ail Ryfel Byd ym Mrycheiniog
2007
Yr Athro Ian McIntyre Frances Hoggan, Meddyges, Arloeswraig Meddygaeth , Gwlatgarwraig a Dyngarwraig
2008
Yr Athro Penelope Corfield Thelwall in Breconshire
Rhoddir Darlith Goffa Syr John Lloyd nesaf gan Dr John Vickers, Ysgrifennydd Prydain Cymdeithas Hanes y Methodistiaid, 1972 - 2000 a Golygydd Geiriadur Methodistiaeth, ar Nos Wener, 20 Mawrth 2009 am 7.00 yr hwyr yn Neuadd y Dref, Aberhonddu. Ei destun yw brodor Aberhonddu Dr Thomas Coke 1747 -1814, Methodist Rhyngwladol Hynod
Prosiect Hanes yr Ysgolion
Sefydlwyd Prosiect Hanes yr Ysgolion ym 1998 trwy waddoliad er cof am Mr Vic Jones. Anogir plant ysgol ledled yr ardal i gyflwyno gwaith ar hanes leol, a chafwyd llawer o gyfraniadau llwyddiannus a gwerthfawr dros y deng mlynedd diwethaf.
Bydd Panel o swyddogion y Gymdeithas yn barnu gwaith y cystadleuwyr, a chyflwynnir y gwobrau ar ddechrau Darlith Goffa Syr John Lloyd gan y Siaradwyr Gwadd, ac mae pob un wedi canmol ansawdd uchel y gwaith a gyflwynwyd.
Manylion gan y Chwaer Bonaventure Kelleher trwy Amgueddfa Brycheiniog